Y Pwyllgor Cynaliadwyedd

 

 

 

John Griffiths AC

Y Gweinidog Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Llywodraeth Cymru

 

 

                                                                  

 

25 Hydref 2011

 

 

 

 

 

 

 

                                          
Annwyl John

 

Hoffem ddiolch ichi am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar 13 Hydref fel rhan o’r broses o graffu ar Gynigion Cyllideb Drafft Llywodraeth Cymru 2012-13. 

 

Hoffai’r Pwyllgor gynnig nifer o sylwadau ichi eu hystyried. Bydd copi o’r ddau lythyr yn cael eu hanfon at y Pwyllgor Cyllid i ddarparu gwybodaeth iddynt ar gyfer y broses gyffredinol o graffu’n strategol ar y Gyllideb Ddrafft, a chânt eu cyhoeddi ar ein gwefan.

 

Blaenoriaethau’r gyllideb

Yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, trafodwyd â chi sut y byddai’r gostyngiad o £2.9 miliwn yn eich cyllideb rhwng 2011-12 a 2012-13 yn effeithio ar eich gallu i roi Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar waith. Rydym yn croesawu’r ffaith eich bod wedi’n sicrhau bod perthynas glir rhwng y Rhaglen Lywodraethu, eich blaenoriaethau a’r gyllideb ddrafft. 

 

TB Buchol

Trafodwyd y dyraniad yn y gyllideb i dalu iawndal ar gyfer TB Buchol. Rydym yn croesawu’r ffaith eich bod wedi egluro bod y ffigurau presennol yn seiliedig ar y taliadau a wnaed y llynedd. Rydym yn pryderu, fodd bynnag, oherwydd natur gylchol yr achosion o TB, na fydd digon o arian ar gael os bydd y taliadau iawndal hyn yn cynyddu.

 

  1. Rydym yn argymell yn gryf bod taliadau iawndal ar gyfer TB yn cael eu monitro’n ofalus i sicrhau bod dyraniadau dilynol yn adlewyrchu’r newidiadau yn y taliadau’n ddigonol o’r naill flwyddyn i’r llall.

 

Cynllunio

Trafodwyd y gostyngiad yn y llinell wariant cynllunio a goblygiadau hynny o ran cynyddu gallu’r awdurdodau cynllunio lleol i ddelio â phrosiectau seilwaith cymhleth. Rydym yn pryderu nad oes digon o adnoddau ar gael i awdurdodau cynllunio lleol i’w helpu i fanteisio ar gyngor a chymorth arbenigol  er mwyn deilio’n effeithiol â phrosiectau ynni mawr. Byddwn yn adrodd ymhellach ar y mater hwn ar ddiwedd yr ymchwiliad presennol i bolisïau a chynlluniau ynni. 

 

Un corff amgylcheddol

Trafodwyd nifer o agweddau ar y cynnig i greu un corff amgylcheddol yn ystod y cyfarfod. Rydym yn deall bod unrhyw ddatblygiadau yn y cyswllt hwn yn dibynnu ar yr achos busnes sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Mae rhai agweddau ar hyn yn peri pryder, fodd bynnag, o ran y gyllideb:

 

  1. Rydym yn eich annog i ystyried y materion hyn wrth bwyso a mesur yr achos busnes dros sefydlu un corff amgylcheddol ac i egluro a yw cyllid ‘Buddsoddi i Arbed’ yn cael eu defnyddio eisoes ar gyfer y broses ailstrwythuro.

 

Rydym yn croesawu’ch ymrwymiad i ganiatáu i’r pwyllgor weld yr achos busnes dros sefydlu un corff amgycheddol wedi iddo gael ei gwblhau.

 

Addasu llinellau gwariant a materion yn ymwneud â gallu

Yn ystod y cyfarfod, bu i chi sôn am yr angen i addasu llinellau gwariant y gyllideb TB buchol a datblygu rheoliadau adeiladu.  Adnoddau presennol Llywodraeth Cymru fyddai’n cael eu defnyddio hefyd, meddech chi, ar gyfer y gwaith a oedd ar y gweill i gyflwyno deddfwriaeth.  

 

  1. Rydym yn argymell bod y gwaith a wneir yng nghyswllt y llinellau gwariant priodol yn cael ei fonitro’n ofalus
  2. Rydym yn argymell bod unrhyw addasiadau a gyflwynir yn y llinellau gwariant hynny yn ystod y flwyddyn yn dryloyw ac yn dangos o ble y daeth yr arian ar eu cyfer
  3. Rydym yn argymell bod effaith gwaith deddfu ar yr adnoddau presennol yn cael ei fonitro’n ofalus a bod digon o adnoddau ar gael ar gyfer yr amserlen ddeddfu.

 

Tlodi tanwydd   

Trafodwyd y gostyngiad mewn termau real yn llinell wariant y rhaglen tlodi tanwydd. Gan fod pris tanwydd yn codi, rydym yn pryderu na fydd y gostyngiad hwn yn ddigon i gael effaith arwyddocaol ar ymdrechion i leihau tlodi tanwydd.

 

  1. Rydym yn eich annog yn gryf i gymryd camau pendant i gael hyd i ffynonellau arian ychwanegol i gyflwyno mesurau i leihau tlodi tanwydd nid yn unig gan y prif gwmnïau ynni ond o gynifer o ffynonellau  â phosibl.

 

Craffu ar daliadau i’r gronfa gyfunol

Trafodwyd yr hyn sy’n digwydd i daliadau a gafodd y Comisiwn Coedwigaeth fel landlordiaid o ganlyniad i gynlluniau ffermydd gwynt ar dir y mae’n ei reoli. Rydym yn pryderu bod y taliadau hyn yn mynd i’r gronfa gyfunol ac nad ydynt yn cael eu harchwilio yn llinell wariant unrhyw un o’r Gweinidogion. 

 

  1. Byddwn yn argymell bod y Pwyllgor Cyllid yn codi’r mater hwn gyda’r Gweinidog Cyllid.

 

 

Asesiad o’r effaith ar gynaliadwyedd

Yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, gofynnwyd ichi a gwblhawyd asesiad o’r effaith ar gynaliadwyedd yng nghyswllt eich cyllideb. Rydym yn pryderu na chynhaliwyd adolygiad o’r effaith ar gynaliadwyedd yng nghyswllt y gyllideb ei hun, yn enwedig o gofio’r gostyngiad yn eich cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

  1. Byddwn yn argymell bod y Pwyllgor Cyllid yn annog y Gweinidog Cyllid i sicrhau bod asesiadau o’r effaith ar gynaliadwyedd yn cael eu cynnal ar gyfer yr holl gyllidebau yng nghylch cyllideb 2012-13 a bod unrhyw newidiadau a wneir o ganlyniad i’r asesiad yn cael eu dangos yn y ffigurau a roddir i’r pwyllgorau perthnasol yn ystod eu gwaith craffu, a bod y rhesymwaith dros y newidiadau’n glir.

 

 

Asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb

Yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, gofynnwyd ichi a gwblhawyd asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb yng nghyswllt eich cyllideb. Rydym yn pryderu na chynhaliwyd adolygiad o’r effaith ar gydraddoldeb yng nghyswllt y gyllideb ei hun ers cylch cyllideb 2010.

 

  1. Byddwn yn argymell bod y Pwyllgor Cyllid yn annog y Gweinidog Cyllid i sicrhau bod asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn cael eu cynnal ar gyfer yr holl gyllidebau yng nghylch cyllideb 2012-13 a bod unrhyw newidiadau a wneir o ganlyniad i’r asesiad yn cael eu dangos yn y ffigurau a roddir i’r pwyllgorau perthnasol yn ystod eu gwaith craffu, a bod y rhesymwaith dros y newidiadau’n glir.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Rydych wedi cytuno i roi’r wybodaeth a ganlyn inni

·         Gwybodaeth am drefniadau caffael systemau treulio anaerobig;

 

Diolch am gynorthwyo’r Pwyllgor gyda’i waith, ac edrychwn ymlaen at gael eich ymateb i’r pwyntiau a godwyd yn y llythyr hwn cyn gynted â phosibl.

 

Yn gywir

Dafydd Elis Thomas

Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

 

c.c.    Jocelyn Davies AC

Cadeirydd, y Pwyllgor Cyllid